Mae dyn yn yr Unol Daleithiau wedi ei gyhuddo o gamymddwyn ar ôl iddo gyfarth at un o gŵn yr heddlu.

Dywedodd heddlu Ohio fod Ryan James Stephens, 25 oed, wedi ei gyhuddo o bryfocio’r ci yn Mason, Cincinnati.

Dywedodd yr heddwas Bradley Walker ei fod wedi clywed ei gi yn cyfarth yn wyllt y tu mewn i’w gar heddlu wrth iddo ymchwilio i ddamwain car ger tafarn bore ddydd Sadwrn.

Roedd Ryan James Stephens yn cyfarth a hisian at yr anifail, meddai Bradley Walker.

“Y ci ddechreuodd pethau,” meddai Ryan James Stephens, oedd wedi meddwi, meddai’r heddwas.

Fe fydd y dyn yn ymddangos o flaen llys bwrdeistrefol ar 21 Ebrill.