Caeau yn Yunnan, China
Mae academydd wedi galw ar ysgolion Cymru i gynnwys prif iaith China, Mandarin, ar eu meysydd llafur.
Roedd Scott Andrews, rheolwr Sefydliad Confucius Caerdydd, yn un o sawl cynrychiolydd fu’n cymryd rhan yn Fforwm Ysgolion Cymru China dros y penwythnos.
Dywedodd y byddai Cymru yn elwa yn economaidd yr hirdymor pe bai mwy o ddisgyblion yn dysgu’r iaith.
“China fydd yr economi fwyaf yn y byd o fewn 10 i 15 mlynedd, a Mandarin yw’r iaith sy’n cael ei siarad gan y mwyaf o bobol yn y byd,” meddai.
“Fe fyddai gan Gymru’r gallu i greu cysylltiad agosach â China yn y dyfodol pe bai’n Cymry yn deall yr iaith.”
Mae Mandarin wedi ei gynnwys ymysg pynciau Bagloriaeth Cymru, sefydlwyd yn 2006.
Dywedodd Scott Andrews bod y trafodaethau yn y fforwm yn dangos bod nifer o ysgolion yn ystyried dysgu Manderin yn hytrach na’r ieithoedd tramor y maen nhw’n canolbwyntio arnynt ar hyn o bryd.
“Rydyn ni wedi derbyn nawdd gan Lywodraeth y Cynulliad yn y gorffennol yn ogystal â buddsoddiad gan lywodraeth China,” meddai.
“Rydyn ni’n gobeithio cyd-weithio ag ysgolion yn y dyfodol er mwyn gwthio’r prosiect rhagddo a sicrhau ei fod yn gynaliadwy.”