Gwlad yr Iorddonen
Mae prif archeolegydd Gwlad yr Iorddonen wedi galw am ddychwelyd 70 o lyfrau hynafol a gafodd eu dwyn a’u cludo’n gudd i Israel.

Mae Ziad al-Saad yn dweud y gallai’r llyfrau plwm fod ymhlith y creiriau Cristnogol cynharaf sydd wedi goroesi.

Os oes modd gwirio eu dyddiadau a’u cynnwys, mae’n honni y gallen nhw fod y darganfyddiad archeolegol mwya’ arwyddocaol gan archeolegwyr sy’n ymchwilio i hanes Cristnogaeth, ers i Sgroliau’r Môr Marw gael eu darganfod yn 1947.

Mae Ziad al-Saad yn dweud fod yna dystiolaeth gref yn awgrymu fod y llyfrau wedi eu darganfod mewn ogof yng ngogledd gwlad yr Iorddonen rhyw bum mlynedd yn ôl. Ond maen nhw bellach yn nwylo rhywun yn Israel.