India
Mae erlynwyr wedi cyhuddo cyn-weindiog telegyfathrebu India, ynghyd â dau swyddog arall a chwe rheolwr cwmni, o dwyllo, fel rhan o sgandal sydd wedi costio biliynau o ddoleri i’r wlad.

Mae’n ymwneud â threfn “cyntaf i’r felin” o werthiant trwyddedau ffonau symudol yn 2008, trefn a lwyddodd i godi dim ond 124 biliwn rwpi (neu £1.7bn) i goffrau’r wlad.

Mae’n cael ei honni fod y swyddogion wedi rhoi rhai trwyddedau i bobol nad oeddan nhw’n gymwys i ddal trwydded, a’u bod nhwthau wedyn wedi’u gwerthu am y prisiau uchaf. Mae Archwiliwr Cyffredinol India wedi dweud fod llywodraeth y wlad wedi colli hyd at £22.3bn  mewn refeniw posib trwy beidio â gwerthu’r trwyddedau dan y morthwyl eu hunain.

Heddiw, mae’r cyn-weinidog Andimuthu Raja ac eraill wedi cael eu cyhuddo’n swyddogol o dwyllo, ac o gynllwynio troseddol. Os y byddan nhw’n cael eu dyfarnu’n euog, fe allan nhw dreulio hyd at saith mlynedd dan glo.

Mae Raja wedi gwrthod unrhyw awgrym ei fod wedi gwneud unrhyw beth o’i le, ond fe gafodd ei orfodi i ymddiswyddo ym mis Tachwedd y llynedd. Fe gafodd ei arestio dri mis yn ddiweddarach.