Mae pobl yr Aifft wedi cymeradwyo newidiadau i gyfansoddiad y wlad, gyda 77% yn pleidleisio o’u plaid mewn refferendwm.

Mae’r newidiadau’n diddymu cyfyngiadau ar hawliau gwleidyddol ac yn agor y drws i etholiadau seneddol ac arlywyddol o fewn y misoedd nesaf.

Roedd tua 41% o’r 45 miliwn o etholwyr y wlad wedi pleidleisio yn y refferendwm ddoe, gyda dros 14 miliwn – 77.2% yn pleidleisio o blaid, a thua 4 miliwn – 22.8% yn erbyn.

Mae lle i amau, fodd bynnag, fod y refferendwm wedi amlygu rhaniadau dwfn yn y wlad. Y ddwy blaid a chwaraeodd y rhannau amlycaf yn yr ymgyrch dros bleidlais Ie oedd y Frawdoliaeth Fwslimaidd, a’r Blaid Ddemocrataidd Genedlaethol, sef plaid y cyn-arlywydd Hosni Mubarak.

Yr ofn yw y bydd polareiddio eithafol rhwng y ddwy blaid mewn etholiadau i ddod, ac y bydd grym yn cael ei rannu rhwng ffwndamentalwyr Islamaidd a chefnogwyr yr hen drefn o dan Mubarak.

Roedd arweinwyr yr wyth miliwn o Gristnogion Coptig yn y wlad wedi ymgyrchu dros bleidlais ‘na’ gan eu bod nhw’n pryderu am rym cynyddol y Frawdoliaeth Fwslimaidd.