Mae canwr Americanaidd ddaeth yn enwog am ei ganeuon yn gwrthwynebu Rhyfel Vietnam yn perfformio yn y wlad gomiwnyddol am y tro cyntaf, cafodd ei gyhoeddi heddiw. 

Mae hyrwyddwyr Bob Dylan wedi cadarnhau y bydd yn canu mewn stadiwm Prifysgol sy’n dal 8,000 o bobl yn Ninas Ho Chi Minh fis nesaf.

Fe ddywedodd Rod Quinton, sy’n hyrwyddo’r canwr, fod disgwyl i docynnau’r cyngerdd werthu allan a hynny i gymysgedd o bobl Vietnam a thramorwyr.

Mae tocynnau i’r cyngerdd yn costio 900,000 dong (£26.60) – ychydig uwch na’r cyflog lleiafswm misol yn Vietnam.

Mae tocynnau VIP yn 2.5 miliwn dong (£73.90).