Baner Sawdi Arabia (Llun: Commons Wikimedia CCO)
Mae Tywysog Coronog Sawdi Arabia, Mohammed bin Salman, wedi cyhoeddi cynlluniau i godi dinas ynni amgen gwerth £380bn.

Bydd prosiect Neom yn cael ei adeiladu ar dir gwastad ar y ffin rhwng yr Aifft a Gwlad yr Iorddonen.

Fe allai’r prosiect ddibynnu ar ddronau, ceir heb yrrwr a robotiaid ac mae disgwyl iddo gael ei ariannu drwy gronfa gyfoeth y goron, gan lywodraeth y wlad a chwmnïau technoleg byd-eang.

Cafodd y cynlluniau eu cyhoeddi mewn cynhadledd fawr yn Riyadh fel rhan o ymgais i beidio â dibynnu’n ormodol ar allforio olew am incwm yn y wlad.

Diwygiadau

Yn ystod y gynhadledd, mae’r Tywysog Mohammed wedi amddiffyn diwygiadau dadleuol newydd y wlad, gan gynnwys rhoi’r hawl i fenywod yrru am y tro cyntaf.

Dywedodd ei fod am weld y wlad yn dychwelyd i “Islam cymedrol”, gyda’r bwriad o drechu eithafiaeth.

Mae arweinwyr busnes oedd yn y gynhadledd wedi canmol “angerdd, gweledigaeth a brwdfrydedd” y tywysog.

Ond fe ddywedodd nad yw’n ddim heb bobol y wlad.