Mae Sefydliad Iechyd y Byd wedi gwneud tro pedol yn dilyn eu penderfyniad i benodi Robert Mugabe yn llysgennad ewyllys da.

Roedden nhw wedi cael eu beirniadu am y penodiad yn sgil record arweinydd Zimbabwe ym maes hawliau dynol.

Mewn datganiad, dywedodd pennaeth Sefydliad Iechyd y Byd, Tedros Adhanom Ghebreyesus ei fod e “wedi gwrando ar bawb sydd wedi mynegi pryder”.

Ychwanegodd ei fod e wedi ymgynghori â llywodraeth Zimbabwe cyn gwneud y penderfyniad, a bod y tro pedol “er lles” Sefydliad Iechyd y Byd.