Mae Prif Weinidog Sbaen, Mariano Rajoy wedi galw ar Senedd y wlad i roi’r hawl iddo ddiddymu Llywodraeth Catalwnia.

Mae lle i gredu ei fod e am gynnal etholiadau “rhanbarthol” ymhen chwe mis.

Dywedodd ar ôl cyfarfod o’r cabinet fod angen i Lywodraeth Sbaen ddiddymu grym Catalwnia er mwyn “adfer trefn”.

Yn ôl ei gynlluniau, byddai gweinidogion Sbaen bellach yn gyfrifol am faterion oedd yng ngofal Catalwnia gynt.

Refferendwm

Mae Sbaen yn parhau i frwydro yn erbyn ymgais Catalwnia i fynd yn annibynnol yn dilyn refferendwm ar Hydref 1 yr oedden nhw wedi ei alw’n anghyfreithlon ac anghyfansoddiadol.

Dydy arweinydd Catalwnia, Carles Puigdemont ddim wedi datgan annibyniaeth eto, ac mae awdurdodau Sbaen wedi ei fygwth â charchar pe bai’n gwneud hynny.