Mae Prif Weinidog Sbaen wedi dweud y bydd ei lywodraeth yn cyhoeddi mesurau penodol yfory i reoli Catalwnia, rŵan bod cytundeb ymysg prif wrthbleidiau’r wlad.

Ond mae Mariano Rajoy wedi gwrthod cadarnhau os fydd yr hyn sydd wedi ei gytuno gyda’r Sosialwyr yn cynnwys etholiadau rhanbarthol yng Nghatalwnia ym mis Ionawr.

Yn gynharach roedd aelod o’i blaid wedi dweud y bydd yna etholiadau yno.

Mae Llywodraeth Sbaen hefyd wedi taro bargen gyda phlaid Ciudadanos sydd i’r dde o’r canol ac o blaid busnes.