Baner annibyniaeth Catalwnia (Llun Golwg360)
Roedd refferendwm annibyniaeth Catalwnia yn anghyfreithlon ac yn groes i gyfansoddiad Sbaen yn ôl Llys Cyfansoddiadol y wladwriaeth.

Dydy’r dyfarniad ddim yn peri syndod oherwydd mae Llywodraeth Sbaen wedi nodi sawl gwaith bod y bleidlais yn anghyfreithlon ac mae cadw undod Sbaen yn rhan o gyfansoddiad y wlad.

Fe ymatebodd Llywodraeth Catalwnia trwy ddweud bod arweinwyr gwleidyddol y wlad yn defnyddio’r barnwyr i atal corff deddfwriaethol.

Cafodd refferendwm y rhanbarth ei gynnal ar Hydref 1, wedi i fesur arbennig gael ei basio gan senedd ranbarthol Catalwnia ym mis Medi.

Roedd y mesur eisoes wedi ei wahardd dros dro gan y Llys Cyfansoddiadol, ond bellach mae beirniaid wedi datgan dyfarniad clir yn ei erbyn.