Mae dinas Mersin ar lan y Mor Canoldir (Nedim Ardoga CCA3.0)
Mae deuddeg o blismyn wedi cael eu hanafu gan fom ar fws yn Nhwrci.

Yn ôl adroddiadau gan yr asiantaeth newyddion Anadolu, mae o leiaf 12 o bobol wedi’u hanafu wrth i’r bws deithio ger dinas arfordirol Mersin.

Mae cyfryngau’r wlad yn adrodd fod ymchwiliad yn cael ei gynnal ar hyn o bryd ac maen nhw’n bwrw amheuaeth ar Blaid Gwrdaith y Gweithwyr (PKK) sydd wedi cynnal ymosodiadau tebyg ar yr heddlu yn y gorffennol.

Ond mae mudiadau brawychol, gan gynnwys rhai asgell chwith ac IS – y Wladwriaeth Islamaidd – wedi gwneud pethau tebyg.

Ym Mersin y mae porthladd mwya’ Twrci ac roedd yr ymosodiad wedi digwydd yn agos at gatre’r llywodraethwr lleol.