Baghdad Llun: PA
Wrth i’r tensiynau gynyddu yn Irac, mae’r Unol Daleithiau wedi galw ar Baghdad ac awdurdodau Cwrdaidd i bwyllo.

Mae’r berthynas rhwng y ddwy ochr wedi bod yn dirywio ers i’r Cwrdiaid gynnal refferendwm ar annibyniaeth ar Fedi 29.

Ar ddydd Llun (Hydref 16) gwnaeth lluoedd Irac gyrraedd dinas Kirkuk – dinas sydd wedi bod dan reolaeth y Cwrdiaid am gyfnod – gan gymryd meddiant o gyfleuster olew’r ardal.

Mae llefarydd ar ran y Pentagon wedi galw ar y carfanau i beidio â gwrthdaro, ac yn mynnu fod y sefyllfa yn Kirkuk yn tynnu sylw oddi wrth prif elyn yr Unol Daleithiau – y Wladwriaeth Islamaidd (IS).