Mewn llythyr at lywodraeth Sbaen, mae arweinydd Catalwnia wedi galw am ragor o drafodaethau, ond nid yw wedi egluro’r sefyllfa’n glir o ran cyhoeddi statws annibynnol.
Roedd Prif Weinidog Sbaen, Mariano Rajoy, wedi rhoi tan heddiw (Hydref 16) i arweinydd Catalwnia gadarnhau p’un a yw wedi datgan annibyniaeth ai peidio.
Ond mae’n debyg nad yw’r Arlywydd Carles Puigdemont wedi cadarnhau yn y llythyr a yw wedi cyhoeddi annibyniaeth o Sbaen.
Mae llywodraeth Mariano Rajoy wedi gwrthod cynnal trafodaethau gyda Carles Puigdemont nes eu bod yn rhoi’r gorau i alw am annibyniaeth.
Fe gyhoeddodd Carles Puigdemont wythnos ddiwethaf ei fod yn gohirio datganiad annibyniaeth “am ychydig wythnosau” er mwyn rhoi cyfle i drafodaethau gyda llywodraeth ganolog Sbaen.
Ond mae’r blaid asgell chwith CUP a mudiad ar lawr gwlad wedi bod yn pwyso arno i beidio â disgwyl dim mwy.
Daw hyn ar ôl i 90% o bleidleiswyr fynegi eu dymuniad i adael Sbaen mewn refferendwm ar 1 Hydref. Ond mae llywodraeth Sbaen wedi datgan bod y refferendwm yn anghyfreithlon ac yn anghyfansoddiadol.