Mae tanau gwyllt yng Nghaliffornia wedi lladd 40 o bobol wrth i’r fflamau ledu dros bellter o 100 milltir, gan orfodi cannoedd yn rhagor o bobol o’u cartrefi.

Cafodd nifer o adeiladau eu dinistrio dros nos yn ardal Sonoma, lle mae diffoddwyr wedi treulio rhai diwrnodau’n ceisio paratoi i atal y fflamau rhag cyrraedd ardaloedd hanesyddol y ddinas.

Mae disgwyl gwyntoedd cryfion ar draws y dalaith am weddill y dydd.

Dinistr

Hyd yma, mae 5,700 o gartrefi a busnesau wedi cael eu dinistrio yn y tanau gwaethaf yn hanes y dalaith.

Mae tua 300 o bobol yn dal ar goll, ond mae’r awdurdodau’n obeithiol o ddod o hyd iddyn nhw’n fyw.

Fe fu farw rhan fwya’r 40 wythnos yn ôl, meddai’r awdurdodau, wrth i’r tanau ffrwydro yng nghanol y nos. Roedd y rhan fwyaf ohonyn nhw’n bobol oedrannus.

Dywedodd y Llywodraethwr Jerry Brown fod y tanau’n “erchylltra na allai unrhyw un fod wedi ei ddychmygu”.