Un o'r tanau yn dal i fudlosgi neithiwr yn Geyserville, California (llun AP Photo/Marco Jose Sanchez)
Ar ôl wythnos o’r tanau gwaethaf yn hanes California, mae 35 o bobl wedi marw, ac o leiaf 5,700 o gartrefi wedi cael eu dinistrio.

Mae tua 90,000 o bobl wedi gorfod ffoi o’u cartrefi hefyd, wrth i 17 o danau mawr ddal i losgi yn rhan ogleddol y dalaith.

Erbyn neithiwr, roedd y criwiau o 9,000 o ddiffoddwyr tân yn gobeithio eu bod yn dechrau llwyddo i gael y tanau o dan reolaeth.

“Dyw’r argyfwng ddim drosodd ac rydym yn dal ati, ond rydym yn gweld rhywfaint o gynnydd mawr,” meddai cyfarwyddwr gwaith argyfwng California, Mark Ghilarducci.

Ers i’r tanau gychwyn ddydd Sul mewn rhannau o wyth sir, mae cymdogaethau cyfan wedi llosgi’n llwyr heb ddim ond lludw a rwbel ar ôl.