Baner y Wladwriaeth Islamaidd
Dywed lluoedd o dan arweiniaid Cwrdiaid sy’n ymladd yn erbyn y Wladwriaeth Islamaidd (IS) yn Syria eu bod yn ymladd y frwydr “derfynol” i gipio eu prif gadarnle yn y wlad.

Arferai Raqqa yng Ngogledd Syria gael ei hystyried fel prifddinas answyddogol califfet IS a byddai ei cholli yn ergyd pellach i’r eithafwyr treisgar.

Hon oedd y ddinas gyntaf i ddod o dan eu rheolaeth lwyr yn 2014, ac oddi yma y cafodd llawer o’u hymosodiadau yng ngwledydd y Gorllewin eu cynllwynio.

“Maen nhw’n dal i allu ymladd ond fyddan nhw ddim mwyach yn penderfynu tynged y frwydr,” meddai llefarydd ar ran Lluoedd Democrataidd Syria, sy’n cael eu harwain gan Gwrdiaid.

Mae’r lluoedd wedi bod yn brwydro ers mis Mehefin i gipio Raqqa oddi ar IS, ac mae’n ymddangos fod tua 4,000 o bobl gyffredin yn gaeth yn y ddinas.