Mae’r Goruchaf Lys yn India wedi deddfu bod dyn sy’n cael cyfathrach rywiol gyda gwraig iau na 18 oed, yn euog o dreisio.

Mae ymgyrchwyr yn dweud fod y penderfyniad yn un arwyddocaol a phwysig yn y broses o ddileu’r arfer o ddynion yn priodi merched bach.

Mae India bellach yn gosod 18 oed fel yr oed ar gyfer i ferched gydsynio i briodi a chael rhyw. Ond mae yna rai eithriadau i’r rheol lle y mae hi’n iawn i ddyn gael rhyw gyda merch mor ifanc â 15, cyhyd â’i bod hi’n wraig iddo.

Fe ddaeth y cyhoeddiad diweddara’ hwn o’r Goruchaf Lys yn Delhi Newydd ddoe (dydd Mercher).