Mae bachgen pedair oed wedi saethu ei dad-cu yn farw yng Ngogledd Carolina.
Dywedodd siryff y dalaith fod Danny Patrick, 57, wedi bod yn chwarae gyda’i wyr yn Elizabeth City pan gafodd y reiffl ei danio drwy ddamwain.
Cerddodd y bachgen i dŷ cyfagos a dweud wrth gymodog fod ei dad-cu wedi marw.
Cafodd yr heddlu eu galw i’r ardal wledig, ac fe ddaethon nhw o hyd i’w gorff.