Mae Prif Weinidog Sbaen, Mariano Rajoy wedi gofyn am ddatganiad ffurfiol gan arweinydd Catalwnia, Carles Puigdemont.
Mae amheuaeth o hyd ynghylch pryd yn union y daw’r datganiad swyddogol.
Yn ôl Mariano Rajoy, mae angen y datganiad cyn y gall Llywodraeth Sbaen ymateb yn ffurfiol.
Ond mae e wedi bygwth defnyddio’r Cyfansoddiad i dynnu hawliau oddi ar Gatalwnia pe bai’n mynd yn annibynnol yn swyddogol.
Fe fu’r ddau arweinydd mewn cyfarfod brys heddiw i drafod y sefyllfa ar ôl i Carles Puigdemont ddweud nos Fawrth ei fod yn barod i atal annibyniaeth dros dro er mwyn cynnal trafodaethau.