Emmanuel Macron - ei bolisïau economaidd wedi gwylltio gweithwyr y sector cyhoeddus
Mae streic genedlaethol yn Ffrainc wedi amharu ar ysgolion, ysbytai a meysydd awyr, wrth i chwarter miliwn o weision sifil fynd allan ar y strydoedd i brotestio yn erbyn polisïau economaidd yr arlywydd, Emmanuel Macron.

Mae’r gweithwyr yn arbennig o anhapus gyda’r modd y mae cyflogau wedi’u rhewi, ynghyd â chynlluniau i gael gwared â 120,000 o swyddi yn y sector cyhoeddus dros y pum mlynedd diwethaf.

Mae Emmanuel Macron hefyd yn argymell toriadau gwariant y mae’n dadlau a fydd yn rhoi hwb i’r economi.

Yn ninas Paris, mae’r heddlu’n dweud iddyn nhw gyfri’ 26,000 o brotestwyr, tra bod prif undeb y gweithwyr sydd ar streic, y CGT, yn dweud iddyn nhw gyfri’ ddwywaith hynny.

Dyma’r tro cyntaf mewn degawd i bob un o undebau’r gwasanaethau cyhoeddus alw am weithredu diwydiannol ymhlith athrawon a gweithwyr ysbytai.