Ar ôl dod o hyd i gorff o dan swyddfa oedd wedi dymchwel yn Ninas Mecsico, mae ymgyrch awdurdodau’r wlad i ddod o hyd i “bobol sydd ar goll” wedi dod i ben. 

Cafodd cyfanswm o 49 corff eu hachub o safle’r swyddfa yn ystod yr ymgyrch achub – 19 dynes a 30 dyn.

Tarodd y daeargryn gradd 7.1 ar Fedi 19 a bu farw 369 yn ei sgil.

O’r holl bobol cafodd eu llad, bu farw 228 ohonyn nhw yn y brifddinas, Dinas Mecsico.