Mae Ysgrifennydd Iechyd yr Unol Daleithiau, Tom Price wedi ymddiswyddo yn dilyn helynt costau teithio.

Roedd wedi cael ei feirniadu am faint o arian roedd yn ei wario ar deithiau awyr ar gyfer ymweliadau swyddogol.

Mae’r Adran Iechyd yn gyfrifol am raglenni yswiriant iechyd, ymchwil, diogelwch cyffuriau a bwyd, iechyd cyhoeddus ac atal afiechydon, ac mae’n werth 1 triliwn o ddoleri ac yn cyflogi 80,000 o staff.

Mae ymchwiliad ar y gweill i gostau teithio yn dilyn yr helynt, ac mae Don J Wright wedi cael ei enwi’n Ysgrifennydd Iechyd dros dro.

Ymddiswyddodd Tom Price, 62, ddydd Gwener ar ôl i’r helynt ddod i’r amlwg ac er iddo dalu ychydig o’r arian yn ôl, doedd hynny ddim yn ddigon i’w achub.

Fe dreuliodd e lai nag wyth mis yn ei swydd.

Dywedodd Donald Trump ei fod yn “berson ffeind iawn” ond na allai gyfiawnhau ei ymddygiad.

Ond mae lle i gredu hefyd fod yr Arlywydd yn anfodlon fod yr helynt yn tynnu sylw oddi ar ei agenda i dorri trethi ac yn tanseilio’i ymdrechion i lanhau gwleidyddiaeth y wlad.

Mae e wedi ad-dalu 51,887.31 o ddoleri hyd yn hyn, ond fe allai’r cyfanswm fod yn uwch o lawer na hynny – ychydig gannoedd o filoedd, o bosib.

Mae lle i gredu bod y Democratiaid yn cefnogi’r penderfyniad.

Y dyfodol?

Un a allai gael ei phenodi yw Seema Verma, arweinydd Canolfannau Medicare a Medicaid sy’n gyfrifol am yswiriant iechyd mwy na 130 miliwn o Americanwyr.

Un o’r prif heriau sy’n ei hwynebu yw sicrhau llwyddiant cofrestru meddygol agored sy’n rhan o gynlluniau Obamacare, rhaglen iechyd na fu’n bosib ei diddymu ers i Donald Trump ddisodli Barack Obama yn Arlywydd yr Unol Daleithiau.

Ymgeisydd posib arall yw Scott Gottlieb, Comisiynydd FDA, sy’n enw adnabyddus ym maes polisi, llywodraeth a diwydiant.