Mae pobol sy’n defnyddio’r ap negeseuon WhatsApp yn China wedi profi trafferthion wrth anfon negeseuon wrth i lywodraeth y wlad dynhau mesurau sensoriaeth.

Mae adroddiadau fod pobol yn cael trafferthion i greu cyfrifon newydd ynghyd ag anfon rhai lluniau a fideos.

Yn ôl adroddiadau mae’r mesurau sensoriaeth wedi tynhau wrth i’r awdurdodau baratoi at gyfarfod mawr fis nesaf lle mae disgwyl i’r Arlywydd Xi Jinping gael ei benodi yn arweinydd am bum mlynedd arall.

Ddydd Llun, fe gafodd y cwmni WeChat a dau wasanaeth cyfryngau cymdeithasol arall eu dirwyo am beidio â chydymffurfio â’r rheolau sensoriaeth.