Mae o leiaf 248 o bobol wedi marw yn sgil daeargryn a darodd canolbarth Mecsico ddydd Mawrth (Medi 19).

Fe darodd y daeargryn gradd 7.1 y brifddinas, Dinas Mecsico, a thaleithiau cyfagos, gan ddinistrio nifer o adeiladau.

Cafodd 22 corff eu llusgo o rwbel ysgol yn Ninas Mecsico wrth i wasanaethau achub chwilio am 38 o bobol sydd ar goll.

Mae awdurdodau wedi cadarnhau bod 117 wedi marw yn Ninas Mecsico tra bod 72 wedi marw yn nhalaith Morelos.

Bu farw dwsinau o bobol eraill yn nhaleithiau Guerrero, Pueblo, Jojutla a Thalaith Mecsico.