Corwynt Irma (llun parth cyhoeddus)
Mae tiriogaethau Prydain yn y Caribî yn paratoi ar gyfer corwynt arall wrth iddyn nhw ymdrechu i adfer y dinistr a achoswyd gan Gorwynt Irma.

Mae storm nerthol Maria wedi cryfhau a throi’n gorwynt gan anelu tuag at y Lesser Antilles ynghyd a’r British Virgin Islands ac Anguilla yn y gorllewin.

Ar hyn o bryd mae’r corwynt yn achosi gwyntoedd o hyd at 85mya ac mae disgwyl iddyn nhw waethygu wrth i’r storm ddilyn trywydd tebyg i Irma.

Fe achoswyd difrod sylweddol i diriogaethau Prydain dros wythnos yn ôl.