Mae dyn yn cario cyllell a geisiodd ymosod ar milwr mewn ffordd dan-ddaear yn ninas Paris, wedi’i arestio.

Fe ddigwyddodd yn gynnar ddydd Gwener yng ngorsaf Chatelet yng nghanol prifddinas Ffrainc.

Roedd y milwr dan sylw yn aelod o lu Sentinelle sydd â’r gwaith o warchod mannau amlwg yn y ddinas ers yr ymosodiadau brawychol gan eithafwyr Islamaidd yn ystod y blynyddoedd diwethaf.

Fe ddaw’r ymosodiad diweddaraf hwn wedi i’r llywodraeth gyhoeddi rhai newidiadau i’r llu – gan ddweud y bydd yn canolbwyntio ar ddigwyddiadau tymhorol.

Fe fydd y milwyr yn parhau i batrolio prif atyniadau twristaidd, mannau addoli, gorsafoedd trenau a meysydd awyr.