Mae un o’r daeargrynfeydd gwaethaf – a chorwynt – wedi taro Mecsico, gan ladd 61 o bobol.

Roedd y daeargryn toc cyn canol nos, nos Iau yn mesur 8.1 ar raddfa Richter ac fe ddinistriodd nifer o adeiladau ar draws sawl talaith.

Cafodd 36 o bobol eu lladd yn Oaxaca, lle cafodd traean o gartrefi eu dinistrio, yn ôl yr Arlywydd Enrique Pena Nieto.

Yn Juchitan, mae adfeilion yn amgylchynu pobol sydd wedi gorfod gadael eu cartrefi ac sy’n cysgu ar y strydoedd.

Mae corwynt Katia wedi taro arfordir Tecolutla yn nhalaith Veracruz, sy’n dioddef yn sgil glaw trwm a gwyntoedd cryfion.

Ond mae lle i gredu bod gwyntoedd Katia wedi gostegu i 75 milltir yr awr erbyn hyn, sy’n ei wneud yn gorwynt categori un, ac mae bellach yn cael ei ystyried yn storm drofannol.

Mae disgwyl y gallai’r corwynt achosi llifogydd a storm ddifrifol yng Ngwlff Mecsico.

Daeargryn

Yn ôl yr Arlywydd, cafodd 45 o bobol eu lladd gan y daeargryn yn Oaxaca, 36 yn Juchitan, 12 yn Chiapas a phedwar yn Tabasco.

Mae’r wlad yn dechrau tridiau o alaru o heddiw ymlaen.

Mae’r awdurdodau’n parhau i chwilio am bobol sydd wedi goroesi, ond maen nhw hefyd wedi dod o hyd i nifer o blant ymhlith y rwbel.