Mae Arlywydd Rwsia wedi galw am gynnal trafodaethau â Gogledd Corea, gan ddadlau nad yw sancsiynau yn ateb i fygythiad niwclear y wlad.

Daw sylwadau Vladimir Putin yn dilyn ei gyfarfod ag Arlywydd De Corea, Moon Jae-in, mewn cynhadledd datblygiad economaidd yn Vladivostok, Rwsia.

Cynhaliodd Gogledd Corea eu chweched prawf niwclear – eu mwyaf hyd yn hyn – ddydd Sul (Medi 3).

Cyn y cyfarfod, dywedodd Moon Jae-in y gallai bygythiad Gogledd Corea ddwysau os na fydd eu harbrofion taflegrau a niwclear yn cael ei rhwystro.

Wrth siarad yn Tsieina ddydd Mawrth, dywedodd Vladimir Putin bod yr arbrofion yn “bryfoclyd” ond bod sancsiynau yn “aneffeithiol ac yn ddiwerth.”