Mae disgwyl bydd ardaloedd o’r Caribî yn cael eu taro gan y corwynt cryfaf a fu yn y Môr Iwerydd ers degawd, heddiw (Medi 6).

Bydd y corwynt categori pump yn dechrau ei daith trwy daro ynysoedd Barbuda ac Antigua, cyn ymlwybro ar hyd Ynysoedd y Caribî tuag at yr Unol Daleithiau.

Mae pobol wedi bod yn ffoi o chwech o Ynysoedd y Bahamas ac mae awdurdodau yn nhalaith Florida wedi datgan stad argyfwng.

Ar ei gryfaf bydd gwyntoedd storm Irma yn 185 milltir yr awr, ac mae Canolfan Corwyntoedd Cenedlaethol America wedi rhybuddio gall fod yn “gatastroffig.”

Daw Irma yn sgil Corwynt Harvey, sef storm wnaeth achosi dinistr a llifogydd yn nhaleithiau Tecsas a Louisiana gan ladd 66 o bobol.