Mae Donald Trump yn ymweld a Tecsas heddiw (Llun: Michael Vadon CCA4.0)
Mae dwy o gronfeydd dŵr dinas Houston yn orlawn ac yn gorlifo, yn sgil dyddiau o law trwm ledled talaith Tecsas.
Yn ôl yr awdurdodau lleol, mae swyddogion wedi bod yn rhyddhau dŵr o argaeau Addicks a Barker, ond mae’r cronfeydd yn ail-lenwi’n rhy gyflym.
Mae’r Swyddog Llifogydd, Jeff Lindner, yn honni y bydd y llifogydd yn boddi mwy o strydoedd a chartrefi’r ddinas o ganlyniad i hyn.
Dyma’r pedwerydd diwrnod o law trwm i daro’r ddinas, a hyd yma mae tair marwolaeth wedi’u cadarnhau. Er hynny mae’r awdurdodau yn pryderu y bydd nifer y meirw yn cynyddu.
Storm Harvey oedd y corwynt mwyaf grymus i daro’r Unol Daleithiau ers 13 mlynedd ac mae’r awdurdodau’n amcangyfrif y bydd hanner miliwn o bobl angen lloches.
Mae arbenigwyr yn disgwyl i’r llifogydd waethygu dros y dyddiau nesaf, ac mae’n debyg bydd hi’n cymryd peth amser i’r dŵr encilio wedi i’r storm ddod i ben.
Mae’r Arlywydd Donald Trump yn ymweld a dwy ddinas yn Tecsas heddiw.