Mae Corwynt Harvey wedi taro arfordir Texas, gyda gwyntoedd wedi cyrraedd cyflymdra o 130 milltir yr awr.

Tarodd y corwynt Categori 4 yr arfordir am 1opm, ryw 30 milltir i’r gogledd-ddwyrain o Corpus Christi, rhwng Port Aransas a Port O’Connor.

Mae degau o filoedd o bobol wedi ffoi o’u cartrefi dros nos wrth i lywodraethwr y dalaith, Gregg Abbott rybuddio am “drychineb”.

Hwn yw un o’r corwyntoedd gwaethaf yn yr Unol Daleithiau ers degawd.

Cafodd ei statws ei uwchraddio o storm digon diniwed nos Wener i gorwynt Categori 4 mewn 56 awr – y corwynt gwaethaf yn y wlad ers 13 o flynyddoedd, a’r gwaethaf yn y dalaith ers 1961.

Mae rhybudd y gallai hyd at dair troedfedd o law gwympo yn ystod y corwynt, gan achosi llifogydd difrifol mewn sawl talaith.

Yn ôl yr awdurdodau, mae’r Arlywydd Donald Trump yn monitro’r sefyllfa, ac mae disgwyl iddo fe deithio i’r dalaith yr wythnos nesaf.

Mae argyfwng wedi’i gyhoeddi yn chwech o siroedd y dalaith erbyn hyn.