Mae’r heddlu wedi saethu dyn yn farw a oedd yn cael ei amau o fod yn rhan o’r ymosodiadau yn Barcelona yr wythnos diwethaf.

Cadarnhaodd yr heddlu eu bod yn chwilio am Younes Abouyaaqoub, 22 oed, oedd wedi’i amau o yrru cerbyd i dorf o bobol yn Las Ramblas.

Yn ôl cyfryngau lleol, dyma’r dyn gafodd ei saethu heddiw ac mae’n debyg ei fod yn gwisgo gwregys â ffrwydradau.

Cafodd 13 o bobol eu lladd yn yr ymosodiad yn Barcelona ddydd Iau, ac un arall mewn ymosodiad pellach ddydd Gwener yn nhref glan môr Cambrils.