Mad marwol tirlithriad Sierra Leone (llun: PA)
Dywed achubwyr yn Sierra Leone nad oes fawr o obaith cael hyd i ragor o bobl yn dal yn fyw yng ngweddillion llithriadau mwd y dyddiau diwethaf.

Mae dros 400 o bobl wedi marw, gydag o leiaf 122 ohonynt yn blant ac mae hyd at 600 yn dal ar goll yn sgil y trychineb yn Freetown, prifddinas y wlad.

“Mae nifer y marwolaethau yn codi bob dydd,” meddai Eldadj As Sy, ysgrifennydd cyffredinol y Groes Goch, un o’r elusennau sy’n helpu gyda’r gwaith achub. “Mae delio â’r trychineb ymhell y tu hwnt i allu’r llywodraeth ar ei phen ei hun.”

Wrth i’r glaw barhau mae pryder am dirlithriad arall ac mae’r llywodraeth wedi gorchymyn trigolion un llethr o gwmpas Freetown i adael eu cartrefi.