Nicolas Maduro, arlywydd Vanezuela
Mae cynulliad cyfansoddiadol Venezuela yn bwriadu cipio pwerau’r gyngres – cyngres sydd wedi ei dominyddu gan wrthblaid y wlad.

Mae cynrychiolwyr y cynulliad oll bwerus  – sydd o blaid Llywodraeth y wlad – wedi cymeradwyo dyfarniad sydd wedi rhoi awdurdod iddyn nhw ddeddfu dros sofraniaeth Venezuela.

Daw’r cam dramatig hon wedi i arweinwyr y gyngres wrthod tyngu llw o deyrngarwch i’r cynulliad.

Daeth y cynulliad cyfansoddiadol i rym yn sgil etholiad sydd yn cael ei ystyried yn annilys gan wrthbleidiau’r wlad.

Mae’r Llywodraeth wedi dadlau bod aelodau seneddol o’r gwrthbleidiau yn cydweithio â’r Unol Daleithiau i ddisodli’r Arlywydd, Nicolas Maduro.