Mae mwy na 300 o bobol wedi marw, ac mae 600 o bobol yn dal ar goll, yn dilyn y tirlithriad a’r llifogydd yn Freetown, prifddinas Sierra Leone.

Mae disgwyl i nifer y meirw godi eto, yn ôl y Groes Goch.

Mae miloedd o bobol wedi colli eu cartrefi yn y digwyddiad a gafodd ei achosi gan law trwm.

Fe fu timau achub yn palu drwy’r mwd a’r rwbel i ddod o hyd i oroeswyr, ac fe gafodd cyfarpar arbenigol ei ddefnyddio’n ddiweddarach.

Mae 297 o gyrff wedi cael eu darganfod hyd yn hyn – 109 o ddynion, 83 o fenywod a 105 o blant.

Cafodd rhai o’r cyrff eu llusgo i ganol y môr oddi ar arfordir gorllewin Affrica, ac mae rhai wedi cael eu llusgo’n ôl i’r lan ers hynny.

Mae cyrff y rhai fu farw wedi cael eu cludo i ysbyty yn y brifddinas, ond dydy’r awdurdodau ddim wedi gallu cadarnhau ffigwr pendant hyd yn hyn.

Mae Sierra Leone yn galaru, yn ôl yr Arlywydd Ernest Bai Koroma, sydd wedi galw am gyfnod o saith niwrnod o alaru swyddogol.

Yn ôl y newyddiadurwr radio Gibril Sesay, mae e wedi colli ei deulu cyfan yn y trychineb.

Mae lle i gredu bod y digwyddiad wedi effeithio ar fwy na 9,000 o bobol yn y wlad.

Mae rhybudd y gallai cannoedd yn rhagor o bobol farw yn ei sgil, ac mae’r Cenhedloedd Unedig yn cynnig cymorth brys i’r wlad, gan gynnwys camau i osgoi lledu afiechydon.

Mae disgwyl i gyrff y meirw gael eu claddu dros y dyddiau nesaf.