Mae Arlywydd yr Unol Daleithiau, Donald Trump wedi ailadrodd ei farn fod “y ddwy ochr ar fai” am y trais yn Charlottesville yn Virginia.

Roedd wedi ennyn dicter y tro cyntaf y gwnaeth y sylwadau am grwpiau croenwyn a’r rhai yr oedden nhw’n protestio yn eu herbyn.

Daw ei sylwadau ddiwrnod yn unig ar ôl iddo farnu bod aelodau’r Klu Klux Klan, neo-Natsïaid a goruchafiaethwyr gwynion sy’n torri’r gyfraith yn “droseddwyr ac yn llabystiaid” – sylwadau oedd wedi cael eu dylunio i dawelu ei feirniaid ymhlith y Gweriniaethwyr, y Democratiaid ac arweinwyr busnes.

Ond mae cwestiynau wedi codi unwaith eto ynghylch ei gefnogaeth i genedlaetholwyr croen gwyn.

Ymhlith y rhai sydd wedi beirniadu ei sylwadau diweddaraf mae’r Seneddwr Gweriniaethol, Marco Rubio a Llefarydd y Tŷ, Paul Ryan.

Ond ymhlith y rhai sy’n croesawu’r sylwadau mae cyn-arweinydd y KKK, David Duke, oedd wedi diolch i Donald Trump am ei “onestrwydd a dewrder”.

Trais

Roedd ymladd ffyrnig ar strydoedd Charlottesville ddydd Sadwrn ar ôl i eithafwyr croen gwyn ymgasglu i brotestio yn erbyn penderfyniad y ddinas i symud cerflun o Robert E Lee, y Cadfridog Cydffederal.

Cafodd dynes 32 oed, Heather Heyer ei lladd pan darodd car yn erbyn criw o wrth-brotestwyr.

Dywedodd Donald Trump ddydd Llun fod y “bai ar sawl ochr” am y digwyddiad ond fe wnaeth e feirniadu’r goruchafiaethwyr yn ddiweddarach.

Ond fe ailadroddodd ei farn wreiddiol eto ddydd Mawrth yn ystod cynhadledd i’r wasg, gan ddweud bod “dwy ochr i bob stori” a bod “pobol ffein” ar y ddwy ochr.

Mae amheuon yn dilyn ei sylwadau y bydd goruchafiaethwyr yn mynnu bod cerfluniau eraill yn cael eu tynnu i lawr.