Freetown, y brifddinas
Mae mwy na 300 o bobol wedi’u lladd mewn tirlithriad o gwmpas prifddinas Sierra Leone, Freetown.

Daeth y cadarnhad am nifer y meirw drwy wasanaeth ddarlledu’r wlad yn hwyr nos Lun ac mae lle i gredu bod nifer yn parhau wedi’u dal o dan adeiladu a mwd wedi diwrnodau o law trwm yn yr ardal.

Mae elusen y Groes Goch yn amcangyfrif y gallai fod hyd at 3,000 o bobol heb eu cartrefi oherwydd y trychineb, ac mae gwirfoddolwyr, goroeswyr a phersonél milwrol wrthi’n ceisio achub pobol o’r mwd.

Un o’r ardaloedd i gael eu taro waethaf yw Regent, un o faestrefi dwyreiniol y brifddinas.

Mae llawer o ardaloedd tlotaf y brifddinas yn agos at lefel y môr ac â system ddraenio wael ac fellu’n fwy tebygol o ddioddef llifogydd.

Dywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth y wlad eu bod yn “cydweithredu” â’r gwasanaethau brys ac achub ac yn annog pobol i ail-leoli mewn rhannau mwy diogel o’r brifddinas.