Mae o leiaf 200 o bobol wedi’u lladd a phryder am ddegau o bobol wedi’u dal mewn tirlithriad ym mhrifddinas Sierra Leone, Freetown.

Mae lle i gredu fod bryniau yn ardal Regent wedi dymchwel yn gynnar ddydd Llun yn dilyn diwrnodau o law trwm.

Mae rhai o’r tai wedi cael eu gorchuddio’n gyfan gwbl gan y mwd, ac mae’r awdurdodau wedi dweud ei bod hi’n rhy fuan i gadarnhau faint sydd wedi’u hanafu.

Mae’r gwasanaethau brys wrthi’n ceisio achub pobol o’u cartrefi ac mae lluniau ar y cyfryngau cymdeithasol yn dangos pobol yn gwneud eu ffordd trwy strydoedd â’r dŵr yn codi hyd at eu canol.

Mae llawer o ardaloedd tlawd y brifddinas yn agos at lefel y môr ac â systemau draenio gwael ac felly mewn perygl o lifogydd yn ystod tymor glawio gorllewin Affrica.