Yemen
Mae’r Cenhedloedd Unedig yn dweud fod hyd at 50 o ffoaduriaid o Somalia ac Ethiopia wedi’u “boddi’n fwriadol” oddi ar arfordir Yemen – ac mae smyglwr yn cael ei feio o’u gorfodi i’r môr.

Mae’r datganiad gan asiantaeth sy’n gweithio ar ran y Cenhedloedd Unedig yn dweud fod y digwyddiad yn un “annynol a dychrynllyd”.

Mae’n dweud hefyd fod gweithwyr wedi dod o hyd i feddau 29 o’r ffoaduriaid ar draeth Shabwa yn ystod patrol arferol.

Y cyhuddiad ydi fod y smyglwr wedi gorfodi cymaint â 120 o bobol i’r dwr ddydd Mercher (Awst 9), wrth iddyn nhw ddynesu at arfordir Yemen.

Fe ddaethpwyd o hyd i 27 o ffoaduriaid yn fyw, ac mae’r rheiny’n derbyn gofal ar y traeth. Mae 32 o bobol yn dal i fod ar goll.