Mae Arlywydd Rwanda, Paul Kagame wedi ennill yr hawl i arwain ei wlad am drydydd tymor ar ôl i adroddiadau awgrymu ei fod e wedi ennill 98% o’r bleidlais.

80% o’r holl bleidleisiau sydd wedi cael eu cyfri hyd yn hyn.

Roedd gan Paul Kagame ddau wrthwynebydd yn y ras – yr ymgeisydd annibynnol Phillipe Mpayimana ac ymgeisydd yr unig wrthblaid gyfreithlon, Frank Habineza.

Cafodd tri ymgeisydd eu gwahardd am fethu â chydymffurfio â rheolau’r etholiad.

Mae Paul Kagame wedi bod yn arwain y wlad ers 1994, pan ddaeth cyfnod o hil-laddiad erchyll i ben ar ôl i 800,000 o bobol gael eu lladd.

Mae e wedi cael ei ganmol am adfer economi’r wlad, ond mae grwpiau hawliau dynol wedi cyhuddo’i lywodraeth o ddefnyddio’u grym i dawelu eu gwrthwynebwyr.

Yn ôl cyfansoddiad y wlad, gall Paul Kagame aros mewn grym tan 2034.