Mae Rwsia wedi ymateb yn chwyrn i benderfyniad Arlywydd yr Unol Daleithiau, Donald Trump, i gymeradwyo sancsiynau newydd yn erbyn y wlad.

Mewn neges ar wefan Facebook, dywedodd Prif Weinidog Rwsia, Dmitry Medvedev, bod y sancsiynau yn gyfystyr â “rhyfel fasnach lwyr yn erbyn Rwsia”.

“Mae’r gobaith o wella ein perthynas gyda gweinyddiaeth newydd yr Unol Daleithiau wedi dod i ben,” meddai Dmitry Medvedev yn ei neges.

“Mae gweinyddiaeth Trump wedi arddangos ei anallu llwyr gan ildio ei awdurdod gweithredol i’r Gyngres mewn modd sy’n codi cywilydd.”

Anghydfod

Er bod awgrym yn ystod yr ymgyrch arlywyddol 2016 y gallai’r berthynas rhwng Rwsia a’r Unol Daleithiau wella dan arweinyddiaeth Donald Trump, mae’n ymddangos bod yr anghydfod rhwng y ddwy genedl yn parhau.

Ddydd Gwener, mi wnaeth Rwsia ddatgan cwtogiad yn nifer y staff diplomyddol Americanaidd yn y wlad.

Daeth hyn fel ymateb disgwyliedig i benderfyniad gweinyddiaeth y cyn-Arlywydd, Barack Obama, i waredu 35 o ddiplomyddion Rwsiaidd, ym mis Rhagfyr llynedd.