Vladimir Putin (www.kremlin.ru)
Mae’r Unol Daleithiau wedi beirniadu penderfyniad Rwsia i anfon cannoedd o ddiplomyddion America o’r wlad gan ddweud nad oes “cyfiawnhad am y weithred.”

Dywedodd yr Arlywydd Vladimir Putin y bydd yn rhaid i’r Unol Daleithiau dorri nifer eu staff diplomyddol o 755 o dan sancsiynau newydd ym Moscow.

Ddydd Gwener, roedd gweinidogaeth dramor Rwsia wedi gorchymyn bod nifer y staff diplomyddol yn cael eu cwtogi erbyn 1 Medi.

Daw’r penderfyniad wrth i Rwsia ymateb i sancsiynau newydd, sydd wedi cael eu cymeradwyo gan Gyngres America, sy’n ceisio cosbi Moscow am ei hymyrraeth yn etholiadau’r Unol Daleithiau yn 2016 ac am ei chyrchoedd milwrol yn yr Wcráin a Syria.

Mae’r ddeddfwriaeth gan yr Unol Daleithiau hefyd yn targedu Iran a Gogledd Corea.

Dywed yr Unol Daleithiau ei bod yn “asesu effaith y cyfyngiad a sut y byddwn yn ymateb iddo.”

Roedd y cyn-Arlywydd Barack Obama wedi anfon 35 o ddiplomyddion Rwsia o’r Unol Daleithiau yn dilyn adroddiadau bod Moscow wedi ymyrryd yn yr etholiadau arlywyddol yn y wlad yn 2016.