Mae 12 o blismyn wedi cael eu lladd yn Afghanistan wrth i gyrch bomio gan America fynd o chwith.

Mae’r Pentagon wedi cadarnhau i’r ymosodiad ddigwydd mewn cyrch yn erbyn y Taliban yn ardal Gereshk o’r wlad, ac maen nhw wedi cydymdeimlo â theuluoedd y rhai a gafodd eu lladd mewn camgymeriad.

Mae lluoedd America a Nato yn Helmand, talaith y mae rhan helaeth ohoni o dan reolaeth y Taliban, i helpu lluoedd Afghanistan yn erbyn y Taliban.

Mae’n ymddangos nad oedd y plismyn mewn iwnifform a bod yr Americanwyr wedi eu camgymryd am y gwrthryfelwyr.