Donald Trump (Llun: AP/David Goldman)
Mae Donald Trump wedi dod dan y lach ar ol iddo drydar fideo ffug ohono yn curo dyn gyda logo CNN dros ei wyneb.
Cafodd y clip 28 eiliad ei rannu ar gyfryngau cymdeithasol ddydd Sul ac mae’n dangos yr Arlywydd yn curo’r dyn i’r llawr mewn fideo sydd wedi cael ei gymryd o ddigwyddiad reslo Wrestlemania XXIII.
Yn y fideo, mae wyneb y reslwr Vince McMahon wedi’i orchuddio gyda logo’r cwmni darlledu yn America, CNN.
Mae CNN yn honni bod y fideo yn “annog trais yn erbyn gohebwyr”.
Dyma’r diweddaraf mewn ffrae rhwng Arlywydd yr Unol Daleithiau a’r cyfryngau yn y wlad.
Yn ddiweddarach y mis hwn fe fydd Donald Trump yn ymweld â Gwlad Pwyl, uwch-gynhadledd y G20 yn yr Almaen, Ffrainc – ac mae ’na ddyfalu y gallai ymweld â’r Deyrnas Unedig hefyd.