Mae goruchaf lys Awstria wedi dyfarnu bod gan lywodraeth y wlad yr hawl i feddiannu’r tŷ lle cafodd yr unben Adolf Hitler ei eni.

Roedd yn rhaid cael achos llys am fod perchennog y tŷ, Gerlinde Pommer, wedi gwrthod gwerthu’r adeilad i’r llywodraeth am nad oedden nhw, yn ei dyb ef, wedi cynnig digon o arian amdano.

Yn ôl Llys Cyfansoddiadol Awstria mae gan y llywodraeth “awdurdod llawn” i feddiannu’r tŷ yn Braunau am Inn ger y ffin â’r Almaen.

Mae llywodraeth Awstria yn gobeithio gweddnewid blaen y tŷ ac am gynnig yr adeilad i asiantaeth sydd yn cynorthwyo pobol gydag anableddau.

Yn sgil y dyfarniad, mae’n bosib y bydd Gerlinde Pommer yn mynd â’r achos i Lys Hawliau Dynol Ewrop.