Otto Warmbier yng Ngogledd Corea
Mae llywodraeth Gogledd Corea wedi gwadu iddyn nhw drin myfyriwr o’r Unol Daleithiau yn wael tra’r oedd yn treulio amser dan glo mewn carchar yn y wlad.

Pan gafodd ei ryddhau yr wythnos ddiwethaf, roedd Otto Warmbier mewn coma, a bu farw ddydd Llun yr wythnos hon (Mehefin 22) yn 22 oed.

Mewn erthygl sydd wedi’i chyhoeddi gan asiantaeth newyddion swyddogol, mae Gogledd Corea yn ymateb am y tro cyntaf i’r farwolaeth, tra bod teulu Otto Warmbier yn yr Unol Daleithiau yn rhoi’r bai ar awdurdodau’r wlad am ei gyflwr.

Yn ol yr erthygl, fe ddeliodd Gogledd Corean gydag achos Otto Warmbier “yn ol cyfraith y wlad ac yn unol â safonau rhyngwladol”. Roedd wedi’i gyhuddo o ddwyn poster propaganda, ac roedd wedi’i ddedfrydu i gyfnod o lafur caled.