Mae Travis Kalanick, Prif Weithredwr y cwmni tacsis dadleuol Uber, wedi ymddiswyddo yn dilyn cyfres o sgandalau diweddar.

Roedd yn un o sylfaenwyr y cwmni yn 2009, ond mae cyfranddalwyr wedi colli hyder yn ei arweinyddiaeth, yn ôl adroddiadau.

Fe fu amheuon yn ddiweddar am y cwmni, gan gynnwys honiadau o aflonyddu rhywiol, dwyn cyfrinachau’r grefft, ac ymchwiliad i honiadau o gamarwain rheoleiddwyr y llywodraeth.

Yn ôl y New York Times, roedd prif fuddsoddwyr y cwmni wedi ysgrifennu llythyr yn mynnu bod Travis Kalanick yn ymddiswyddo, a bod y bwrdd rheoli’n penodi cyfarwyddwyr annibynnol newydd, ynghyd â phennaeth cyllid profiadol.

‘Moment anodd’

Mewn datganiad, dywedodd Travis Kalanick ei fod e’n “caru Uber yn fwy nag unrhyw beth yn y byd” a’i fod e wedi derbyn penderfyniad y buddsoddwyr ar “foment anodd” yn ei fywyd.

Roedd e eisoes wedi gadael ei swydd dros dro ar ôl cael ei feirniadu am y ffordd yr oedd e’n rheoli’r cwmni, ac yn dilyn marwolaeth ei fam.

Dywedodd llefarydd ar ran Uber fod Travis Kalanick wedi gwneud “penderfyniad dewr” wrth adael y cwmni.

Pennod newydd

Bron yn syth ar ôl ei ymadawiad, mae Uber wedi cyflwyno rhaglen o newidiadau, gan gynnwys galluogi teithwyr i roi cildwrn i yrwyr drwy ap y cwmni.

Roedd i bod yn gwrthwynebu’r rhaglen.