Helmut Kohl
Mae Canghellor yr Almaen, Angela Merkel, wedi talu teyrnged i’w rhagflaenydd, Helmut Kohl, yn dilyn ei farwolaeth ddoe (ddydd Gwener, Mehefin 16) yn 87 oed.

Ef, meddai, oedd “y dyn iawn ar yr adeg iawn” i fod wrth y llyw pan ddaeth awel y newid mawr i uno Dwyrain a Gorllewin y wlad yn yr 1980au.

“Fe ddeallodd Helmut Kohl fod yna gyfle hanesyddol i uno’r Almaen, ar ôl degawdau o ymrannu,” meddai Angela Merkel, “ac fe afaelodd yn y cyfle.

“Ei sgiliau fel gwladweinydd oedd yn gyfrifol am berswadio cymdogion yr Almaen fod newid yn bosib, a’i dduliau o oedd yn gyfrifol fod y newid wedi bod yn un mor heddychlon.”

Magwyd Angela Merkel yn Nwyrain yr Almaen, ac mae’n dweud i’w bywyd hi’n bersonol newid yn llwyr o ganlyniad i weithredoedd Helmut Kohl. “Fe fydda’ i’n fythol ddiolchgar,” meddai.