Bill Cosby a'i wraig Camille (Llun: AP/Matt Rourke)
Mae disgwyl i’r rheithgor yn achos llys Bill Cosby ailddechrau trafod wedi iddyn nhw fethu â chyrraedd dyfarniad nos Lun.

Mae’r diddanwr, 79 oed, yn wynebu cyhuddiadau o ymosod yn rhywiol ar ddynes mwy na degawd yn ôl.

Bu’r rheithgor yn ystyried am bedair awr mewn llys yn Norristown, Pennsylvania cyn cael eu hanfon adref neithiwr gyda disgwyl i’r trafod ailddechrau heddiw.

Fe allai euogfarn yn ei erbyn anfon Bill Cosby i’r carchar am weddill ei oes.

Mae’r cyhuddiadau’n ymwneud â chyn-reolwr pêl-fasged, Andrea Constand, sy’n honni ei fod wedi rhoi cyffuriau cyn ymosod arni yn 2004, gyda’r diddanwr yn dweud ei fod mewn perthynas â hi.